Cwestiynau Cyffredin
- Ble rydyn ni’n mynd pan fyddwn ni’n cyrraedd?
Ewch i’r ddesg gofrestru a fydd wedi ei lleoli y tu allan i fynedfa’r arena ac i'w gweld yn amlwg cyn gynted ag y byddwch yn mynd i mewn i'r adeilad. Ar ôl cofrestru presenoldeb eich côr byddwch yn cael eich tywys i’ch ystafell ymarfer. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyfarwyddiadau parcio ar yma.
- Allwch chi archebu ystafell ymarfer?
Mae ystafell ymarfer yn Venue Cymru wedi ei chlustnodi i bob côr am 30 munud cyn eich cystadleuaeth. Dylech chi i gyd fod wedi derbyn amserlen ystafell ymarfer.
- A fydd lle penodol i ni allu newid?
Bydd cyfleusterau newid ar gyfer dynion yn Ystafell Rhuddlan, a bydd cyfleusterau newid ar gyfer merched yn Ystafell Alwen.
- Ble allwn ni adael ein heiddo?
Bydd ystafell gotiau â gofalwr i chi allu gadael eich eiddo pan fyddwch chi’n cystadlu, neu mae croeso i chi fynd a'ch eiddo i'r arena gyda chi, ar eich menter eich hun. 15 munud cyn y bydd eich cystadleuaeth yn dechrau, byddwch yn cael eich arwain o’ch ystafell ymarfer i lawr i’r arena. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mynd a’ch eiddo i’r ystafell gotiau cyn hyn.
- Allwn ni wylio cystadlaethau eraill?
Fel côr sy’n cystadlu, rydych yn gymwys i wylio eich cystadleuaeth yn rhad ac am ddim. Y prisiau ar gyfer cystadlaethau eraill neu gefnogwyr yw £8 i oedolion a £5 i blant.
- Beth yw maint/siâp y grisiau corawl?
Mae gan y grisiau corawl 4 rhes/gris a rheiliau ar yr ochr. Hyd y rhes flaen yw 21 troedfedd. Hyd y rhes gefn yw 30 troedfedd. Mae pob rhes yn grwm. Mae dyfnder o 11 troedfedd. Mae rhagor o wybodaeth wedi ei rhestru yn y rheolau a’r rheoliadau.
- Am ba mor hir ydyn ni yn cael canu?
Ar gyfer cystadlaethau, bydd gennych 10 munud o amser canu. Bydd y cloc yn cael ei stopio rhwng eich caneuon. Byddwch yn cael eich cosbi os ydych chi’n mynd dros yr amser yma. Mae rhagor o wybodaeth yn y rheolau a’r rheoliadau. I’r rhai sy'n perfformio yn y gyngerdd gyda’r hwyr nos Sadwrn, bydd gennych 7 munud (heb ei amseru) yr un i berfformio.
Nodyn atgoffa
- Cyrhaeddwch cyn amser eich ymarfer i gofrestru.
- Cofiwch gasglu eich cerddoriaeth ddalen o’r ddesg gofrestru ar ôl y gystadleuaeth.
- Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â chyfleusterau bwyd ar wefan Venue Cymru neu wrth y ddesg gofrestru.
- Darllenwch y rheolau a’r rheoliadau am ragor o wybodaeth.
Ymholiadau:
Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
E-bost: northwaleschoirfestival@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492577839