top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577839
 
Title

Text
cy Ynglyn
start content

Ynglyn

Helo a chroeso i Ŵyl Gorau Ryngwladol Gogledd Cymru! 

Mae 2024 yn argoeli i fod yn flwyddyn wych. Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau’r penwythnos prysur yma, a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â ni yn nhref glan môr Fictorianaidd hyfryd Llandudno ar 2-3 Mawrth.

Mae’r Ŵyl wedi croesawu corau o bob cwr o'r byd i gystadlu yn y dathliad arbennig hwn o gerddoriaeth. Wedi ei lleoli yn Venue Cymru, mae gan Ŵyl Gorau Gogledd Cymru amrywiaeth o gategorïau at ddant pawb drwy gydol y penwythnos.

Wedi ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth. Ystyrir hon fel un o wyliau corawl mwyaf Cymru, gydag awyrgylch arbennig iawn, sydd wrth fodd pob corydd.

Rydych yn siŵr o gael penwythnos yn llawn o dalent cerddorol a hwyl, a hynny os byddwch yn y gynulleidfa neu’n cystadlu gyda chôr! Dyma gategorïau’r cystadlaethau ar gyfer 2024:

Dydd Sadwrn yn cychwyn am 10am:

  • Corau Un Llais
  • Lleisiau Ifanc

Dydd Sul yn cychwyn am 10am:

  • Categori Agored
  • Corau Sioe

Dydd Sul yn cychwyn am 2pm:

  • Corau Cymysg

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content