Ymgeisiwch i Gymryd Rhan
Mae ceisiadau ar gyfer 2022 bellach wedi cau.
Gofynion Ymgeisio:
Gallwch gwblhau eich ffurflen gais ar gyfer cystadlu yma. Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol:
- Rhaid i’ch côr gael 10 neu fwy o aelodau
- Rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais gyda manylion am eich côr, bywgraffiad côr a llun safon uchel.
- Rhaid i chi dalu’r ffi mynediad (£75 fesul categori)
- Cyn y gystadleuaeth, rhaid i chi ddarparu 4 set o daflenni cerddoriaeth gwreiddiol o ddarnau cystadleuaeth
Categorïau:
Er mwyn bod yn rhan o’r gystadleuaeth rhaid i chi ddatgan pa gategori y byddwch yn cystadlu ynddo. Dim ond un categori y gallwch ei ddewis i bob cais, ond gallwch gyflwyno nifer o geisiadau os ydych yn dymuno cystadlu o dan mwy nac un categori. Y categorïau yw:
- Côr Meibion
- Côr Merched
- Ieuenctid
- Arddull Siop Barbwr
- Ychydig o Hwyl
- Cymysg
Gwneud cais:
Mae ceisiadau ar gyfer 2022 bellach wedi cau.
Cadwch lygad ar y wefan am ddiweddariadau ar ddigwyddiad y flwyddyn nesaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch gwylgorawlgogleddcymru@conwy.gov.uk.
Sicrhewch eich bod wedi darllen y Rheolau a Rheoliadau cyn i chi wneud cais.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yna gallwch ddarllen ein tudalen Cwestiynau Cyffredin neu gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.