top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577839
 
Title

Text
cy Rhyddid Gwybodaeth
start content

Beth yw'r Cynllun Cyhoeddi?

Mae’r Cynllun Cyhoeddi’n manylu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael fel rheol o dan Ryddid Gwybodaeth. Cofiwch edrych arno gan y gall yr wybodaeth rydych yn ei cheisio fod ar gael yn gyhoeddus eisoes.

Sut ydw i’n gofyn am wybodaeth?

E-bostiwch neu ysgrifennwch atom ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr adran hon.

Rhagor o wybodaeth

Yn eich cais, gallwch ofyn am ddogfennau, adroddiadau neu ohebiaeth. Ceisiwch:

  • fod yn fanwl gan roi disgrifiad clir o’r hyn y dylem fod yn chwilio amdano
  • cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad neu eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn er mwyn i ni allu cysylltu â chi os oes angen egluro eich cais
  • nodi os oes arnoch angen y wybodaeth mewn fformat penodol e.e. copi caled neu electronig, print mawr ac ati.

A fydd hyn yn costio?

Os gallwn ni ddarparu’n wybodaeth o fewn 18 awr o amser staff, yna ni fydd angen talu, ond efallai y bydd ffioedd am gostau i ni, fel llungopïo, argraffu, postio a phecynnu, os yw'r ffioedd hyn yn fwy na £10.00. Os codir tâl, bydd cadarnhad o'r taliad sydd i'w wneud yn cael ei roi cyn y bydd y wybodaeth yn cael ei darparu, ac efallai y bydd angen talu cyn darparu’r wybodaeth.

Ymateb i’ch cais

Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw hi’n debygol y bydd oedi, byddwn yn dweud wrthych chi. Efallai y bydd y terfyn amser hwn yn cael ei ymestyn o dro i dro, os oes rhaid ystyried materion cyfreithiol cymhleth, ond fe geisiwn roi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn egluro pam ein bod yn oedi. Byddwn yn ceisio darparu’r wybodaeth i chi cyn gynted â phosibl bob tro.

Gallwn wrthod rhoi’r wybodaeth yr ydych yn ceisio amdani i chi os:

  • Yw darparu’r wybodaeth yn gyfwerth â thros £450 (ar sail 18 awr, yn costio £25 yr awr)
  • Nad yw'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani gennym
  • Yw’r wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf
  • Yw eich cais yn cael ei ystyried yn flinderus neu’n ailadroddus

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn fodlon â’r ymateb rwy’n ei gael?

Os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth y gwnaethoch gais amdani, neu os nad ydych wedi ei derbyn i gyd, mae gweithdrefn gwyno gan y Cyngor ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Os nad ydych yn fodlon a’n hymateb, mae’n rhaid i chi gwyno’n ysgrifenedig o fewn 20 niwrnod o dderbyn ymateb y Cyngor gan roi’r rhesymau dros eich cwyn.

Gallwch un ai e-bostio info-gov.unit@conwy.gov.uk neu ysgrifennu at yr Uned Llywodraethu Gwybodaeth a bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at uwch swyddog.

Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb, Conwy
LL32 8DU

A oes modd i mi gael fy ngwybodaeth bersonol o dan Ryddid Gwybodaeth?

Os oes arnoch eisiau eich gwybodaeth eich hun, mae gennych hawl iddi o dan Ddiogelu Data, yn hytrach na Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r rheolau ar gyfer gwybodaeth bersonol a gwybodaeth nad yw’n bersonol ychydig yn wahanol. Gweler y dudalen "we gwneud cais am eich data".

Dogfennau Cysylltiedig

Deddf Rhyddid Gwybodaeth – Polisi Rheoliadau Amgylcheddol (PDF)

Ffurflen gais Rhyddid Gwybodaeth (ffeil Word)

end content