Cystadlaethau
Bydd cyfle i gystadleuwyr yr Ŵyl Gorau ennill y gwobrau ariannol.
Os nad yw hynny’n ddigon, bydd cyfle hefyd i aelodau’r corau fwynhau golygfeydd godidog Llandudno. Rydych yn sicr o gael croeso cynnes Cymreig!
- Bydd yr enillydd yn ennill £300.
- Bydd y rhai sy’n dod yn ail yn ennill £200.
- Bydd y rhai sy’n dod yn drydydd yn ennill £100.
Tâl cofrestru - £80
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru – 8 Rhagfyr 2023
Mae’n rhaid i bob côr gael 10 aelod neu fwy. Gallwch ddarllen canllawiau llawn y rheolau a’r rheoliadau yma.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau. Yn dilyn hyn, byddwch yn derbyn e-bost i ddweud eich bod wedi cofrestru’n llwyddiannus neu wedi cael eich ychwanegu at y rhestr aros.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn am daliad yn ogystal â bywgraffiad bychan am y côr a llun o ansawdd uchel i’w gynnwys yn y rhaglen.