top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577839
 
Title

Text
cy Hygyrchedd
start content

Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwylgoraugogleddcymru.com

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Conwy. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r hyn sydd wedi’i gyhoeddi ar www.gwylgoraugogleddcymru.com

Mae’r safle’n defnyddio dyluniad ymatebol, sy’n newid cynllun tudalennau gwe, fel eu bod yn gweithio’n dda ar gyfrifiaduron, llechi electronig a ffonau symudol.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Cafodd ei dylunio i gael ei defnyddio gan gynifer o bobl â phosib. Dylai fod y testun yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech fod yn gallu:

  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% gwaith yn fwyheb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio rhan fwyaf o’r wefan (ac eithrio pdf a mathau eraill o atodiadau) yn defnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Nid yw’r elfennau canlynol yn hygyrch. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio i wella’r elfennau hyn o ran hygyrchedd pan fydd o fewn ein pŵer i wneud hynny, neu byddwn yn gweithio gyda’n cyflenwyr i wneud hynny:

  • mae rhai tudalennau’n cynnwys tablau, nad oes modd eu darllen gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
  • mae sawl dogfen ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch
  • nid yw rhai o’n ffurflenni ar-lein yn hygyrch
  • nid yw’r cynnwys a’r ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn hollol hygyrch
  • nid yw rhai lluniau yn cynnwys testun amgen
  • mae rhai elfennau mewn perthynas â phenawdau yn anghyson
  • nid oes modd addasu uchder y llinellau na’r bylchau rhwng y testun
  • mae’n anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni ar-lein yn defnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mae gwe-lywio mapiau rhyngweithiol yn anodd wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd yn ymwneud â’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn canfod unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni.


Fel arall, gallwch ysgrifennu atom:

Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ


Rydym yn anelu at ymateb i adborth o fewn 10 diwrnod gwaith.

Sut i wneud cais am gynnwys hygyrch

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth ar ffurf wahanol cysylltwch â ni a dywedwch wrthym:

  • beth yw cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd arnoch ei angen, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, PDF      hygyrch


Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Conwy wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (gwefan allanol).

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae’r cynnwys isod yn anhygyrch am y rhesymau a ganlyn.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Sut rydym yn profi’r wefan

Mae’r wefan hon yn cael ei phrofi mewn amser real gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol (Siteimprove). Rydym yn bwriadu cynnal profion o ddetholiad o’n tudalennau mwyaf poblogaidd gyda phobl ag anableddau, erbyn diwedd mis Rhagfyr, 2020.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Medi, 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Medi, 2020.



end content