top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577839
 
Title

Text
cy Cymryd rhan Cwestiynau Cyffredin
start content

Cwestiynau Cyffredin

  1. Ble fyddwn ni’n mynd ar ôl i ni gyrraedd?

    Ewch at y ddesg gofrestru a fydd tu allan i fynediad yr arena ac fe welwch y ddesg wrth i chi ddod i mewn i’r adeilad.  Ar ôl cofrestru presenoldeb eich côr byddwch yn derbyn bandiau i aelodau eich côr eu rhoi am eu garddyrnau i gael mynediad i’r ystafell aros ar gyfer y corau (Ystafell Orme) lle bydd ardal i bob côr baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.  Bydd mynediad i ystafelloedd newid i ddynion a merched yn ogystal â stand i hongian dillad a chaffi/bar ar gyfer lluniaeth. Mae gwybodaeth parcio a chyfarwyddiadau i’w gael ar wefan Venue Cymru  Cyrraedd yma | Venue Cymru

  2. Ydw i'n gallu archebu ystafell ymarfer?

    Rydym wedi dyrannu amser ymarfer o 15 munud i bawb yn Venue Cymru cyn eich perfformiad ar y llwyfan.  Bydd eich rhedwr yn casglu eich côr o un ai’r arena neu ystafell aros y corau ac yn eich tywys i ystafell ymarfer cyn eich perfformiad a bydd allweddellau ar gael hefyd. O fan hyn byddwch yn mynd yn syth ar y llwyfan i berfformio. Gellir cynnal ymarferion anffurfiol yn ystafell aros y corau hefyd lle bydd yna biano ar gael i’w rhannu ymysg yr holl gorau.


    A fydd unrhyw le i ni newid?

    Mae llefydd newid ar gael yn ystafell aros y corau (Ystafell Orme).

  3. Ble allwn ni adael ein heiddo?

    Bydd swyddogion yn goruchwylio’r ystafell aros lle gallwch adael eich holl eiddo personol pan fyddwch yn cystadlu. Dim ond aelodau o gorau gyda bandiau ar eu gaddyrnau fydd yn cael mynd i mewn i’r ystafell aros.  Rydych yn gadael eich eiddo ar fenter eich hun. 20 munud cyn eich perfformiad ar y llwyfan byddwch yn cael eich tywys o’r arena neu ystafell aros y corau i’r ystafell ymarfer ar gyfer y perfformiad. Sicrhewch eich bod wedi mynd â’ch eiddo personol i’r ystafell aros cyn hyn. Bydd y côr yn mynd yn syth o’r ystafell ymarfer i’r llwyfan.

  4. Allwn ni wylio cystadlaethau eraill?

    Fel corau yn cystadlu, rydych yn gymwys i wylio eich cystadleuaeth yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, mae prisiau ar gyfer unrhyw gategorïau eraill neu ar gyfer eich cefnogwyr yn £8 i oedolion a £4 i blant. Bydd y newyddion ddiweddaraf am y gystadleuaeth yn cael ei fwydo i ystafell aros y corau. 

    Rydym yn annog yr holl gefnogwyr i brynu eu tocynnau o flaen llaw ar gyfer y cystadleuaethau a’r cyngerdd. Gellir prynu tocynnau yma

  5. Allwn ni wylio cystadlaethau eraill?

    Fel côr sy’n cystadlu, rydych yn gymwys i wylio eich cystadleuaeth yn rhad ac am ddim. Y prisiau ar gyfer cystadlaethau eraill neu gefnogwyr yw £8 i oedolion a £5 i blant.

  6. Sut beth yw’r esgynnydd corol?

    Mae gan yr esgynnydd corol 4 rhes/gris a rheiliau ochr. Mae’r rhes flaen yn 21 troedfedd o hyd. Mae’r rhes ôl yn 30 troedfedd o hyd. Mae pob rhes yn grwm. Mae dyfnder o 11 troedfedd. Byddwn yn marcio’r llawr yn yr ystafell ymarfer yn yr un dimensiymau â lle fydd y corau yn sefyll ar y llwyfan er mwyn i chi allu ymarfer lle byddwch yn sefyll.

  7. Am faint o hir fyddwn ni'n canu?

    Ar gyfer y cystadlaethau, bydd gennych o leiaf 8 munud a dim mwy na 12 munud i ganu.  Caiff y cloc ei stopio rhwng pob cân.  Cewch eich cosbi os ewch dros yr amser hwn.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y rheolau a rheoliadau. 

  8. Pa wybodaeth sydd ar gael am y cyngerdd?

    Ar gyfer y corau hynny sydd wedi dweud yr hoffen nhw gymryd rhan yn y cyngerdd nos mi fyddwn mewn cysylltiad i gadarnhau eich lle yn y cyngerdd ac i ofyn am eich repertoire.

    Disgwylir i chi berfformio am 6 funud o’r cyngerdd.

    Ni fydd prif ystafell aros y corau a ddefnyddir ar gyfer y cystadlaethau ar gael i’r cyngerdd, byddwn yn dyrannu ystafelloedd eraill ar y llawr cyntaf i aelodau’r corau eu defnyddio fel ystafelloedd newid/ystafelloedd ymarfer. 

 

Nodyn atgoffa

  • Bydd drysau yn agor am 9am, peidiwch â chyrraedd cyn 9am. 
  • Cyrhaeddwch mewn da bryd i gofrestru cyn i’ch cystadleuaeth ddechrau. 
  • Bydd caffi/bar ar gael yn ystafell aros y corau a bydd caffi/bar ar agor i’r cyhoedd yn Venue Cymru.
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y rheolau a rheoliadau.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Ymholiadau:

Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bost: northwaleschoirfestival@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492577839



Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content