top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577839
 
Title

Text
cy Cymryd rhan Rheolau a Rheoliadau
start content

Rheolau a Rheoliadau

 

Cymhwyster i Gystadlu

1. Oedran: Rhaid i bawb sy’n dymuno cystadlu yng Nghategori 1 (Côr Un Llais) a Chategori 4 (Côr Cymysg) fod yn o leiaf 18 oed. Mae Categori 2 (Lleisiau Ifanc) ar gyfer unrhyw oedran i fyny at, ac yn cynnwys 18 oed. Mae Categori 3 (Categori Agored) a Chategori 5 (Côr Sioe) ar gyfer unrhyw oedran.

2. Mae’n rhaid cael o leiaf 8 aelod a dim mwy nag 80 o aelodau ymhob côr. Os oes mwy neu lai o aelodau na hynny cysylltwch â’r trefnydd.

3. Ni chaniateir i gorau sydd wedi ennill eu categori dair blynedd yn olynol i gystadlu eto y flwyddyn honno yn y categori hwnnw, ond gellir ail-afael ynddi’r flwyddyn wedyn.

 

Repertoire

4. Mae gan yr holl gorau isafswm o 8 munud ac uchafswm o 12 munud o amser canu, lle byddan nhw’n canu cymaint o ddarnau cyferbyniol o gerddoriaeth ag y dymunent, gyda neu heb gyfeiliant. Nodwch fod rhaid cadw at yr amseroedd a bydd unrhyw gorau yn cael eu cosbi am fynd dros y cyfyngiad amser fel a ganlyn:

Cosb am Fynd dros yr Amser:

I fyny at 30 eiliad - Dim
30 eiliad - 1 munud 1 marc
1 munud - 1.5 munud 2 farc
1.5 munud - 2 funud 4 marc
2 funud - 3 munud 6 marc
3 munud - 4 munud 8 marc
Dros 4 munud - 10 marc

5. Dim ond unwaith y caniateir i gorau ganu un darn o gerddoriaeth yn yr Ŵyl (h.y. mae angen rhaglen ar wahân ar gyfer pob categori a gymerir rhan ynddynt).

6. Penderfyniad y beirniaid sy’n derfynol ym mhob agwedd o’r gystadleuaeth.

7. Dydi Gŵyl Gorau Gogledd Cymru ddim yn derbyn traciau cefndirol ar gyfer cystadlaethau ar wahân i Gategori 3 (Categori Agored) a Chategori 5 (Côr Sioe). Darperir piano ar y llwyfan i’ch cyfeilydd.

 

Hawliau Darlledu a Recordio

8. Mae’n amod y dylai pob côr gytuno iddo wrth gymryd rhan:

a. Bod unrhyw berfformiad yn ystod GGGC yn cael ei ddarlledu’n fyw, ei recordio ac/neu’n cael ei ffotograffio ar gyfer darllediad wedi hynny ar y radio, teledu, ar-lein a/neu CD, a hynny heb dalu’r côr. Mae’r holl hawliau darlledu i unrhyw berfformiad yn yr Ŵyl yn eiddo i’r Ŵyl ac felly’n rhydd i gael gwared arnynt pan fo hynny’n briodol.

b. Bod unrhyw berfformiad yn ystod GGGC yn cael ei ddarlledu’n fyw, ei recordio a bod gan y trefnwyr hawl i feddu ar recordiad o’r fath a gyda hawl pellach i ailgynhyrchu unrhyw recordiad o’i fath i’w werthu, i’w logi, cynnig ei werthu neu logi, dosbarthu, neu fel arall i gael gwared ar unrhyw recordiad neu ail-gynhyrchiad o recordiad o unrhyw berfformiad mewn modd y gwelir yn briodol.

c. Yn unol â hawliau perfformio ni chaniateir defnyddio offer fideo, sain neu gamerâu yn ystod unrhyw un o’r cystadlaethau ar wahân i ffotograffydd swyddogol yr Ŵyl.

d. Offerynnau cerddorol – rhowch wybod i’r trefnwyr o flaen llaw os oes gennych offerynnau cerddorol ychwanegol i’w cynnwys ar y llwyfan. Yr uchafswm o offerynnau a ganiateir yw 3.

e. Mae’n rhaid cyflwyno traciau cefndirol mewn fformat MP3 ar ffon USB neu ar un CD yn y drefn gywir ar gyfer y perfformiad, ac mae’n rhaid i’r sain fod o’r safon uchaf posib. Sicrhewch fod y traciau cefndirol yn cael eu hanfon i mewn cymaint ag sy’n bosib o flaen llaw.

 

Cyffredinol

9. Derbynnir ceisiadau hwyr mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

10. Ni chaniateir i gorau berfformio ar y llwyfan cyn y gystadleuaeth, ond byddan nhw’n cael lleiafswm o 15 munud i ymarfer mewn ystafell ymarfer benodol.

11. Bydd corau yn cael eistedd i wylio perfformiadau yn eu categori.  Fodd bynnag, rhaid prynu tocyn i weld unrhyw gategorïau eraill. Rhaid talu ffioedd mynediad gan holl westeion eraill y côr.

12. Oherwydd deddfwriaeth hawlfraint dydi Gŵyl Gorau Gogledd Cymru ddim yn derbyn cyfrifoldeb am ail-gynhyrchiad anghyfreithlon o’r gerddoriaeth. Bydd unrhyw gorau sy’n cystadlu ac yn dewis gwneud hynny yn destun atebolrwydd.

13. Mae angen copi o bob darn o gerddoriaeth fel bod gan y beirniaid gopi. Gall fod yn gopi digidol wedi’i anfon dros e-bost neu’n gopi caled wedi’i anfon i gyfeiriad Venue Cymru os yw’n well gennych ei anfon drwy’r post.

14. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i newid yr amserlen yn unol â nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer pob categori.

15. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i gyfyngu nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer pob categori.

16. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i ganslo categori os oes nifer annigonol o geisiadau.

17. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad.

18. Mae cymryd rhan yn GGGC yn golygu eich bod yn derbyn yr holl reolau a rheoliadau.

19. Nid o dan unrhyw amgylchiadau y caniateir symud y piano yn ystod yr Ŵyl.  Ffoniwch neu anfonwch e-bost gyda’ch ymholiad a bydd modd anfon llun o leoliad y piano atoch.

20. Mae’n rhaid i gorau osod eu hunain ar yr esgynnydd corol yn unol â’r marc yng nghanol y llwyfan.

21. Mae gan yr esgynnydd corol 4 rhes/gris a rheiliau ochr.  Mae’r rhes flaen yn 21 troedfedd o hyd, a’r rhes gefn yn 30 troedfedd o hyd.  Mae dyfnder o 11 troedfedd. Mae’r fanyleb ar gael ar gais.

22. Nid o dan unrhyw amgylchiadau y caniateir gwneud ymarferion sain yn yr Arena o flaen llawn, hyd yn oed os mai traciau cefndirol a ddefnyddir.

23. Mae cyfyngiad i 8 o gorau ymhob categori. Unwaith y cyrhaeddir y cyfyngiad hwnnw bydd corau yn cael eu cynnwys ar y rhestr aros a fydd yn cael ei rheoli ar sail gyntaf i’r felin os bydd corau yn tynnu allan o’r gystadleuaeth.

24. Mae’n rhaid i aelodau o’r gynulleidfa adael yr Arena ar ddiwedd pob categori. Mae hyn er mwyn newid y nifer o seddi sy’n cael eu dyrannu ar gyfer y corau sy’n cystadlu.

Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin ar cyn cysylltu gan ei bod yn bosib fod eich cwestiwn wedi’i gynnwys ar y dudalen hon yn barod.

 

Tlysau ac Arian fel Gwobr (Pob Dosbarth)

  • Tlws a £300 ar gyfer y safle buddugol
  • Tlws a £200 ar gyfer yr ail safle
  • Tlws a £100 ar gyfer y trydydd safle     

 

Amserlen:

  • Cystadleuaeth ar gyfer Categorïau 1 a 2 yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 2 Mawrth am 10am*. 
  • Cystadleuaeth ar gyfer Categorïau 3, 4 a 5 yn dechrau ar ddydd Sul, 3 Mawrth am 10am*. 

*Gall amseroedd newid.
 

Ymholiadau:

E-bost: gŵylgoraugogleddcymru@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 577839

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content